Gweithio ar eich liwt eich hun a Dechrau Busnes

Beth bynnag yw eich gyrfa neu ddiddordebau, mae cyfle yn aml i ystyried gweithio i chi eich hun. Mae pobl yn cychwyn busnes mewn amrywiol feysydd, o fynd â chŵn am dro i siopau melysion, o gaffis i gyfreithwyr, cerddorion i ddylunwyr graffig. Felly, boed yn rhywbeth rydych erioed wedi ei ystyried o’r blaen neu os ydych yn barod i ddechrau, bydd yr erthygl hon yn eich helpu i ystyried y sgiliau entrepreneuraidd, y cynghorion ar ddechrau a lle i fynd am help.