Band Eang Cyflym Iawn
Mae Band Eang Cyflym Iawn wedi cyrraedd yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn annog busnesau Cymraeg i fanteisio ar gyflymderau rhyngrwyd o hyd at 330 megabit yr eiliad drwy uwchraddio i fand eang cyflym iawn. Mae band eang ffeibr cyflym yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ar gyn o bryd gan Superfast Cymru, prosiect uchelgeisiol £425 miliwn sydd wedi ei sefydlu gan Lywodraethau Cymru a'r DU, yr Undeb Ewropeaidd a BT. Mae’n targedu i gyflwyno band eang cyflym iawn i 96% o’r DU erbyn 2016.
Disgwylir i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a BT mewn cyflwyno band eang cyflym iawn yng Nghymru roi hwb mawr i’r economi lleol. Mae arbenigwyr yn rhagweld bydd y dechnoleg gyflym hon yn gallu cyfrannu cannoedd o filiynau o bunnoedd i’r economi leol. Bydd yn galluogi cwmnïau sy’n bodoli i weithredu yn fwy effeithlon a datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd, ac yn ei wneud yn haws i fusnesau newydd i gychwyn drwy gynyddu defnydd newyddbethau, megis cyfrifiadura cwmwl.
7 mantais busnes gallwch ddisgwyl gyda Band Eang Cyflym Iawn
- Cynyddu elw
- Cynyddu cynhyrchiant
- Cynyddu effeithlonrwydd
- Lleihau costau
- Cynyddu gwasanaeth cwsmer
- Diogelu eich asedau
- Cyrraedd targedau cynaliadwyedd
I ddarganfod mwy am sut y gall Band Eang Cyflym Iawn gefnogi eich busnes, gan gynnwys ble a phryd bydd ar gael, sut i’w gael a sut i roi mantais i’ch busnes ewch at wefan Band Eang Cyflym Iawn Cymru.
Darganfyddwch mwy am y cymorth sydd ar gael gan Band Eang Cyflym Iawn Cymru ar gyfer busnesau cymwys yma.