Galw am stondinwyr yn Ffair Hydref Blaenafon

Mae Tîm Tref Blaenafon yn galw am stondinwyr i fod yn rhan o Ffair Hydref Blaenafon eleni.

Mae'r ffair yn cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn 26 Medi o 11am-4pm ac yn cynnwys marchnad bwyd a chrefft, arddangosfeydd coginio, ffair hwyl a gweithgareddau i blant, ac adloniant a cherddoriaeth byw.

Mae'r digwyddiad yn rhan o Wythnos Cefnogi Eich Stryd Fawr (19-26 Medi), ymgyrch Cymru gyfan gyda'r nod o annog cymunedau i gefnogi eu stryd fawr leol ac ailddarganfod y manteision o siopa'n lleol .

 Fel rhan o'r wythnos bydd plant o Ysgol Treftadaeth Blaenafon yn dylunio arwyddion arbennig ar agor/ar gau ar gyfer y siopau yn y dref, a fydd hefyd yn cymryd rhan gyda chynigion a gostyngiadau arbennig drwy gydol yr wythnos.

I wneud cais am stondin, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kate Fitzgerald ar 01633 648319.

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20th Awst 2015