Canolfan alwadau yng Nghwmbrân yn dathlu ennill gwobr aur mewn safonau Buddsoddwyr Mewn Pobl

Yn ôl erthygl yn y South Wales Argus, mae staff a rheolwyr o’r ganolfan alwadau yng Nghwmbrân, We Fight Any Claim, yn dathlu ar ôl ennill wobr o’r lefel uchaf o dan safonau Buddsoddwyr Mewn Pobl, sef safon aur.

Dadorchuddiodd AS Torfaen Nick Thomas-Symonds y wobr Buddsoddwyr Mewn Pobl i’r cwmni yn swyddogol yn ystod ymweliad â’r swyddfeydd.

Cafodd We Fight Any Claim, sy'n cyflogi mwy na 650 o bobl yn ei bencadlys yn Llantarnam, ei asesu a dyfarnwyd y safon ym mis Awst drwy weithio ar ran Llywodraeth Cymru i'r tîm Buddsoddwyr Mewn Pobl.

Darllenwch fwy am y stori hon yn y South Wales Argus.

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 8th Rhagfyr 2015