Cwmni o Gwmbrân, Siphon Networks, ymhlith y gorau yng Ngwobrau Technoleg Deloitte

Yn ôl y South Wales Argus, mae’r cwmni technoleg o Gwmbrân, Siphon Networks, wedi ei osod ymhlith traean uchaf y Deloitte 2015 Technology Fast 500 EMEA.

Mae’r safle hwn yn dilyn llwyddiant y cwmni wrth gael ei osod yn 23ain yn y 2015 Deloitte UK Technology Fast 50.

Mae’r rhaglen 2015 Technology Fast 500 EMEA yn cydnabod cwmnïau technoleg sydd wedi cyflawni’r cyfraddau cyflymaf o dwf refeniw yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Sicrhaodd y darparwyr datrysiadau technoleg cyfathrebu unedig a llais uwch sydd wedi eu lleoli yng Nghwmbrân fuddsoddiad ecwiti sylweddol o Gyllid Cymru ym mis Mawrth 2015.  

Darllenwch fwy yn y South Wales Argus

Roedd Siphon Networks yn arfer bod yn denantiaid yn y Ganolfan Arloesi Busnes Springboard~Cymru yng Nghwmbrân

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 15th Rhagfyr 2015