ESTnet yn paratoi'r genhedlaeth nesaf o raddegion technoleg

Yn ôl y South Wales Argus,  mae rhaglen arbrofol blwyddyn mewn diwydiant ar gyfer israddedigion wedi dathlu llwyddiant ei blwyddyn gyntaf, sydd wedi gweld tri chwarter y myfyrwyr oedd yn cymryd rhan yn derbyn cynnig gwaith gan rai o fusnesau technoleg mwyaf blaenllaw Cymru.

Cafodd prosiect  Blwyddyn Israddedigion Mewn Diwydiant sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ei ddatblygu a'i weithredu gan ESTnet, y rhwydwaith technoleg i Gymru, i gynhyrchu 'graddedigion sy'n barod am waith' sy'n meddu ar sgiliau allweddol ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant electroneg a meddalwedd sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru.

Cafodd y mwyafrif o leoliadau eu darparu gan gwmniau o fewn cymuned cynyddol busnesau bach a chanolig technoleg yng Nghymru, gan gynnwys arbenigwyr mewn dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol yn Blurrt sydd wedi eu leoli yng Nghanolfan Busnes Arloesol, Cwmbrân.

Darllenwch mwy am y stori yma yn y South Wales Argus 

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 24th Hydref 2016