Canolfan alwadau Cwmbrân yn cymryd mwy na 100 o staff ymlaen

Mae canolfan alwadau yn Nhorfaen a gafodd ei ddadorchuddio fel rhan o ymgyrch recriwtio fawr y llynedd wedi cymryd mwy na 100 o staff ymlaen ers mis Ionawr, yn ôl erthygl yn y South Wales Argus

Dywedodd Griffin Place Communications, sy'n rhedeg y ganolfan yn Nhŷ Gwent, Lake View, ei fod eisoes wedi recriwtio 110 o staff.

Dywedodd y cwmni y byddai'r asiantau gwerthu dros y ffôn yn delio gyda gwerthiant a gofal cwsmeriaid ar gyfer cwmnïau yswiriant mawr a sefydliadau ariannol.

Roedd rhai o'r recriwtiaid yn bobl ddi-waith a gafodd eu cyfeirio at Griffin Place Communications gan Hyfforddiant Torfaen, sy'n cael ei redeg gan gyngor Torfaen .

Darllenwch yr erthygl lawn yn y South Wales Argus.

Darganfyddwch fwy am Mewnfuddsoddi yn Nhorfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20th Mawrth 2015