50 o swyddi ar gyfer ffatri newydd Frog Bikes ym Mhont-y-pŵl, Torfaen

Yn ôl BBC News, mae gwneuthurwr beic i blant wedi agor ffatri newydd yn Nhorfaen, yn mynd i greu hyd at 50 o swyddi.

Y safle 120,000 troedfedd sgwâr yn Ystad Parc Mamhilad, Pont-y-pŵl, yw cyfleuster gweithgynhyrchu cyntaf Frog Bikes yn y DU.

Mae'r cwmni o Surrey wedi derbyn £1.7m o gyllid banc a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae wedi agor y ffatri newydd i ateb y galw am ei beiciau yn dilyn cynnydd yn 2015.

Dysgwch fwy am leoli eich busnes yn Nhorfaen yn ein Parth Mewnfuddsoddi neu cysylltwch â Gaynor Wakling ar 01633 648371/Ffôn symudol: 07980682307 neu e-bostiwch gaynor.wakeling@torfaen.gov.uk

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17th Awst 2016