Artie Craftie, Blaenafon yn cefnogi ymgyrch stryd fawr

Yn ôl y South Wales Argus mae llwyddiant yn y stryd fawr y dyddiau yma yn gallu bod yn waith caled, gyda pherchnogion busnesau’n wynebu niferoedd yr ymwelwyr yn gostwng, cystadleuaeth ddigidol, niferoedd cyfyng o siopau ar gael a threthi busnes cyfnewidiol.

I fusnes celf a chrefft Artie Craftie, sydd ar y gornel rhwng Heol Lydan a Commercial Street ym Mlaenafon, mae paratoi ac ymchwilio i’r farchnad wedi talu ar ei ganfed.

Yn borffor i gyd, mae’r busnes yn gwerthu amrywiaeth o ddeunydd celf a chrefft ac mae yno stiwdio ffotograffiaeth ac amrywiaeth o wasanaethau Swyddfa’r Post hefyd. 

Darllenwch fwy am y stori hon yn y South Wales Argus

 

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 12th Ionawr 2017