Trowch syniad disglair yn gynnyrch masnachol llwyddiannus trwy Raglen Sbarc y Cyngor Dylunio

Rhaglen gefnogaeth a chyllido sydd wedi ei chynllunio i’ch helpu chi i droi syniad disglair yn gynnyrch masnachol llwyddiannus yw Sbarc y Cyngor Dylunio,

Dros gyfnod o 16 wythnos bydd hyd at 15 o derfynwyr yn derbyn cyngor arbenigol a mentora un am un.  Unwaith y cewch eich derbyn i’r rhaglen byddwch yn derbyn £15,000 i gychwyn i’ch helpu chi i ddatblygu eich cynnyrch yn ogystal â chyfle i anelu am ran o £200,000 pellach.  Yn dilyn y rhaglen byddwch yn derbyn aelodaeth am oes o rwydwaith Sbarc y Cyngor Dylunio a mynediad i gymuned eang y Cyngor Dylunio. 

Gellir gwneud cais nawr.  Y dyddiad cau yw 10 Ionawr 2017.

Cewch fwy o wybodaeth yma 

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11th Tachwedd 2016