Y Sioe Fasnach Ffasiynau ar-lein cyntaf yn y byd yn cael ei lansio gan gwmni o Gymru

Yn ôl Wales Online, mae llwyfan digidol chwyldroadol newydd ar gyfer y diwydiant ffasiynau ar fin cael ei lansio gan gwmni o dde Cymru, Brand Lab.

System ar-lein un stop sy’n cysylltu brandiau a phrynwyr ffasiynau ar draws y byd yw Brand Lab.

Mae’r meddalwedd yn caniatáu i frandiau ddangos eu casgliadau trwy sioeau ffasiynau byw ar-lein ac i fanwerthwyr archebu’n uniongyrchol trwy’r system talu integredig.

Mae’r diolch am hyn i ddyn busnes, Dan O’Connell, a oedd wedi synhwyro bod angen newid radical yn y farchnad cyfanwerthu ffasiynau tra’n gweithio yn Los Angeles a chyda’i gwmnïau ffasiynau ei hun.

Darllenwch fwy am y stori yma ar Wales Online.

Mae disgwyl i Brand Lab symud i Lantarnam, Cwmbrân, Torfaen yn 2017

Yn edrych at symud eich busnes i Dorfaen? Cysylltwch â Gaynor Wakeling yn Economi a Mentergarwch Torfaen ar 01633 648371 neu e-bostiwch Gaynor.wakeling@torfaen.gov.uk   er mwyn dysgu mwy am y manteision o leoli eich hunan yn Nhorfaen a sut i gymryd y camau cyntaf.  Neu ewch i’r Adran Buddsoddiad Mewnol ar wefan Economi a Mentergarwch Torfaen.

 

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 26th Hydref 2016