Blwyddyn ar ôl tân trychinebus mae Abergavenny Fine Foods wedi agor safle gwaith newydd o'r radd flaenaf

Yn ôl y South Wales Argus, ar ôl tân trychinebus a ddinistriodd eu prif ffatri cynhyrchu, mae Abergavenny Fine Foods wedi agor ffatri newydd ar gost o£10miliwn, blwyddyn yn union ar ôl y digwyddiad, ym Mlaenafon.

Dywedodd Melanie Bowman, rheolwr gyfarwyddwr Abergavenny Fine Foods “O ran busnes rwy'n credu bod y 12 mis diwethaf wedi tanlinellu'r pwysigrwydd o gynllunio ar gyfer dilyniant. Er nad oedden ni byth wedi meddwl y byddai rhaid i ni ailadeiladu ffatri gynhyrchu, roedd cynlluniau gyda ni i weithio gydag eraill pe bai rhaid cau'r ffatri er mwyn cwrdd â'r galw.”

Darllenwch y stori yn llawn yn y South Wales Argus

 

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20th Hydref 2016