Cwmni Cyfreithiol o dde Cymru yn cryfhau adran gofal plant

Yn ôl y South Wales Argus, mae cyfreithwyr Everett Tomlin Lloyd and Pratt Solicitors wedi cryfhau eu hadran gofal plant trwy recriwtio'r gyfreithwraig brofiadol ac aelod o'r panel plant, Jess Gray .

Bydd Ms Gray, a oedd yn bennaeth yr adran teulu a phlant am chwe blynedd yn ei hen gwmni, ar ôl ymuno â nhw yn wreiddiol yn 2004, yn gweithio gyda Kay Perrott sydd hefyd yn aelod o Banel Plant Cymdeithas y Gyfraith.

Mae gan ETLP dros 40 o staff mewn swyddfeydd ym Mhont-y-pŵl, Casnewydd a Brynbuga.

Darllenwch fwy ar y stori yn y South Wales Argus

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 31st Hydref 2016