Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru

Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yw'r prof gynllun gwobrwyo ar gyfer busnesau cymdeithasol yng Nghymru, dathliad proffil uchel o fentrau dychmygus, entrepreneuraidd, yn canolbwyntio ar dwf - sydd yn frwd dros newid cymdeithasol.

Mae'r Seremoni Wobrwyo ar gyfer 2016 yn cael ei gynnal ar noson y Gynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru ar Dydd Mercher 28 Medi am 7:00 yn Stadiwm Liberty, Abertawe.

Eleni  am y tro cyntaf, mae busnesau cymdeithasol wedi gallu mynd i bum categori sy'n benodol i wahanol sectorau busnes.
Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen wedi cael ei henwi yn rownd derfynol y categori 'Diwylliant a Hamdden', a noddwyd gan Charity Bank, sy'n cydnabod busnesau cymdeithasol rhagorol sy'n gweithio mewn diwydiannau amrywiol megis twristiaeth, chwaraeon, celfyddydau a threftadaeth.

Darllenwch fwy am y gwobrau yma

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 13th Medi 2016