Busnesau'n ffynnu mewn lleoliad parcdir unigryw

Yn ôl y South Wales Argus mae parcdir unigryw yng Ngwent yn gynyddol boblogaidd fel lleoliad ar gyfer busnesau sy’n cychwyn a rhai mwy sefydlog.

Mae Ystâd Park Mamheilad, Pont-y-pŵl, canolfan cynhyrchu British Nylon Spinners (BNS) gynt ac yn fwy diweddar yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau helaeth yn y sector gyhoeddus, yn prysur gael ei ail-greu ar gyfer yr 21ain ganrif.

Mae gofod swyddfa adfeiliedig yn cael ei adnewyddu mewn rhaglen sy’n dod â miloedd o droedfeddi sgwâr o swyddfeydd yn fyw eto ac yn creu cannoedd o swyddi newydd ar yr un pryd.

 Darllenwch fwy ar-lein yn y South Wales Argus 

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21st Ebrill 2017