Steve Jones o Comparison Creator, Springboard, Cwmbrân wedi ei restru fel terfynwr yng Ngwobrau Digidol Wales Online

Mae enwau’r terfynwyr yng Ngwobrau Digidol cyntaf WalesOnline 2017 wedi eu datgelu. Maent yn cydnabod busnesau ac entrepreneuriaid sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i’r sector. Mae Steve Jones, Comparison Creator, Cwmbrân wedi ei restru fel terfynwr yn y categori Entrepreneur Digidol y Flwyddyn.

Yn ôl Wales Online, gyda mwy na 25 o brofiad yn y diwydiant yswiriant, Steve Jones yw’r dyn y tu ôl i’r unig gwmni meddalwedd label gwyn, annibynnol, mewn meddiant preifat.

Mae’r cwmni wedi ei leoli yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard – Cymru yng Nghwmbrân, Torfaen.

Darllenwch fwy am y gwobrau yn Wales Online 

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21st Ebrill 2017