Cwmni symud celfi o Gwmbrân yn dathlu agor estyniad gwerth £1,000,000

Yn ôl y South Wales Argus, mae cwmni teuluol symud celfi Fox Group (Moving & Storage) Ltd a sefydlwyd yn 1971  wedi dathlu agor estyniad newydd i’w prif swyddfa yng Nghwmbrân ar gost o £1miliwn. Daeth gweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr ynghyd i’r digwyddiad yn y swyddfa yn Heol Gwlad yr Haf. Bydd yr estyniad sydd 14,000 troedfedd sgwâr a gynlluniwyd gan benseiri Buckle Chamberlain ac a adeiladwyd gan Henstaff Construction Ltd, yn rhoi mwy o le ar gyfer swyddfeydd a storio yn ogystal â rhoi lle i gerbydau hynafol Fox mewn ystafell arddangos annatod.

Darllenwch fwy am y stori yn y South Wales Argus .

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 15th Chwefror 2017