Mecanyddion teithiol yn sicrhau lleoliad parhaol yng Nghwmbrân

Yn ôl y South Wales Argus, mae RR Mobile Mechanics, cwmni teuluol o fecanyddion teithiol wedi cymryd prydles uned 1,500 troedfedd sgwâr ar Ystâd Ddiwydiannol Springvale, Cwmbrân i’w defnyddio fel garej ar gyfer y busnes trwsio ceir sy’n ehangu.

Dechreuodd Robert Fox-Madeley, mecanydd profiadol, RR Mobile Mechanics dwy flynedd yn ôl.

Roedd y cwmni wedi ei leoli yn wreiddiol yng nghartref y teulu.

Mae’r busnes wedi tyfu’n gyflym, gan arwain at yr angen am uned i alluogi RR Mobile Mechanics i barhau i gynnig gwasanaeth teithiol yn ogystal â defnyddio’r gofod ychwanegol ar gyfer gwaith trwsio mwy cymhleth ac i storio darnau a’u fflyd o gerbydau. 

Darllenwch fwy am y stori yma yn y South Wales Argus a dysgwch fwy am eiddo busnes yn Nhorfaen yng Nghyfeiriadur Eiddo Economi a Mentergarwch Torfaen    

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3rd Chwefror 2017