Bydd ail arddangosfa busnes Torfaen yn digwydd ar ddydd Mercher 17 Mai yn Stadiwm Cwmbrân.
Mae cynlluniau ar gyfer rhaglen lawn o ddigwyddiadau a bydd gan gynrychiolwyr gyfle i rwydweithio gydag eraill yng nghymuned busnes Torfaen, a chlywed gan nifer o siaradwyr dylanwadol.
Hefyd bydd stondinau ar gyfer busnesau lleol i arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau.
Daeth dros 50 i arddangos yn y digwyddiad cyntaf yn 2015, a daeth dros 200 o bobl trwy’r drysau.
Dywedodd Dennis Ricketts, cadeirydd Llais Busnes Torfaen: “Roedd y digwyddiad cyntaf yn llwyddiant mawr ac mae disgwyl i ddigwyddiad eleni fod yn well byth.
“Mewn sir fach mae gan Dorfaen amrywiaeth mawr o fusnesau annibynnol a mentrwyr arloesol, ac mae’r arddangosfa yn gyfle gwych i fusnesau yn Nhorfaen a thrwy Went i arddangos eu gwasanaethau, rhwydweithio a gwneud cysylltiadau newydd a gwrando ar siaradwyr ardderchog.”
Bydd yr arddangosfa busnes yn digwydd yn Stadiwm Cwmbrân ar ddydd Mercher, Mai 17 o 9am tan 1pm.
Mae mynediad i’r arddangosfa am ddim, er bod rhaid archebu lle, tra bod stondinau yn dechrau o £80. Gellir archebu lle a stondinau trwy www.southwalesbusiness.co.uk/en/Business-Club/TBVExhibition2017/TBVExhibition.aspx
Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20th Ionawr 2017