Entrepreneuriaid ifanc i agor siop yng Nghanolfan Siopa Caerdydd

Bydd entrepreneuriaid ifanc, gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth y Tywysog, yn arddangos eu busnesau yn Uned LG35 yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant Caerdydd rhwng dydd Iau 23ain a dydd Sul 26ain Mawrth 2017. Mae’r busnesau yn cynnwys siop ddillad, ysgol syrffio, cadwraeth adeiladau hanesyddol, gwerthwr blodau a gwneuthurwr dodrefn. Mae’r holl entrepreneuriaid wedi cymryd rhan yn rhaglen Fenter Ymddiriedolaeth y Tywysog, sy’n rhoi cymorth ymarferol, ariannol a mentora i helpu i bobl ifanc ddi-waith gychwyn mewn busnes.

 Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai/digwyddiadau ysbrydoledig yn rhad ac am ddim. Rhagor o wybodaeth yma

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 13th Mawrth 2017