According to the South Wales Argus Artie Craftie has been nominated and now shortlisted in Retail Industry Awards' Independent Post Office Retailer of the Year, for a post office inside the craft store

Yn ôl y South Wales Argus, mae Artie Craftie wedi cael ei enwebu am Wobr Diwydiant Manwerthu 'Manwerthwr Swyddfa Bost Annibynnol y Flwyddyn, ac erbyn hyn wedi cyrraedd y rhestr fer am swyddfa bost y tu mewn i'r siop grefftau.

Mae gan y siop hefyd stiwdio ffotograffiaeth, cyfleusterau golchi dillad, ysgythru a fframio.

Symudodd y perchnogion, Nick, 57, a Wendy Horler, 59, i Flaenafon o Wlad yr Haf i agor y siop ar ôl i Mr Horler ymweld â’r dref ar nifer o adegau a syrthio mewn cariad â hi.

Mae Artie Craftie wedi ennill gwobrau cenedlaethol droeon yn ogystal â chydnabyddiaeth gan lywodraeth Cymru fel arwr stryd fawr.

Meddai Mr Horler: “Rydyn ni wedi'n syfrdanu'n llwyr i gael ein henwebu ar gyfer gwobr fel hyn a chyrraedd y rhestr fer!.

Bydd y cwpl yn teithio i Lundain ar 27 Medi i’r seremoni Gwobrau Diwydiant Masnachol i ganfod a ydynt wedi ennill.

Stori lawn

 

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17th Awst 2018