IUK yn Lansio Cystadleuaeth Cyllid Grant Agored: Ail Rownd

Cyllid ar gyfer busnesau yn y DU, yn gweithio ar eu pennau eu hunain neu gyda chorff ymchwil a thechnoleg i ddatblygu syniadau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd mewn unrhyw sector yn yr economi.

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i’r syniadau gorau gyda golwg ar eu masnacholi. Gallant ddod o unrhyw faes o dechnoleg, gwyddoniaeth neu beirianneg, gan gynnwys y celfyddydau, dylunio, cyfryngau neu ddiwydiannau creadigol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn fusnes yn y DU o unrhyw faint neu’n gorff ymchwil a thechnoleg.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: hanner dydd 12 Medi 2018.

Rhagor o wybodaeth yma
Wedi ei bostio ar Dydd Llun 6th Awst 2018