Rydym ni, a'n partneriaid, yn gosod cwcis a chasglu gwybodaeth o'ch porwr i roi cynnwys gwefan i chi a deall cynulleidfaoedd gwe. Gweler ein polisi preifatrwydd i ddysgu mwy am sut rydym yn rheoli eich data a'ch hawliau. Gweler ein polisi cwcis i ddeall sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnoleg olrhain.
Ymunwch er mwyn derbyn gwybodaeth gennym
Mae Solar Buddies yng Nghwmbrân yn mynd amdani ar ôl cyrraedd rhestr fer tair gwobr Busnes Arloesol y Flwyddyn a Busnesau Bach y Flwyddyn, ac mae eu sylfaenwyr, Kelli Aspland a Laura Griffin wedi cyrraedd rownd derfynol yn y categori Entrepreneur y Flwyddyn. Mae Purely Disposables yn Abersychan, ar y rhestr fer ar gyfer Busnes Cychwynnol y Flwyddyn a Busnes Amgylcheddol y Flwyddyn
Meddai Jo Barnes, golygydd busnes South Wales Argus: "Roedd hi'n wirioneddol anodd ceisio dewis unigolion i'r rownd derfynol o blith yr holl ymgeiswyr. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl feirniaid a gymerodd ran, ac sydd, yn ein barn ni, wedi dod o hyd i ddetholiad gwych ar gyfer y rhestr fer. Rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at y noson wobrwyo ar 27 Medi pan fydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi. "
I gael mwy o fanylion ynghylch y tocynnau ar gyfer y noson wobrwyo, sydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Casnewydd, cysylltwch â Matt Berry ar 01633 777043 neu Samantha Taylor ar 01633 777147.
Darllenwch y rhestr fer lawn ar South Wales Argus