Gwobrau Dathlu Busnesau Bach 2019 FfBB nawr ar agor

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bychain (FfBB) wedi lansio ymgais i gael hyd i’r busnesau bach gorau. O allforwyr at fusnesau newydd, o arloeswyr at fusnesau gwyrdd, ac o fusnesau teuluol i’r mentrwyr ifanc gorau, mae cwmnïau bach yn cael eu hannog i wneud cais am wobrau Dathlu Busnesau Bach 2019 FfBB. 

Mae’r gwobrau blynyddol, sy’n agored ar gyfer ceisiadau yn cynnwys nifer eang o gategorïau.

Bydd rownd derfynol Cymru yn digwydd yng Nghaerdydd ym Mawrth 2019, gyda’r enillwyr i gyd yn mynd ymlaen at rownd derfynol y DU yn Llundain ar 23 Mai 2019.

Gellir gwneud cais am ddim am y gwobrau ac maen nhw’n agored i bob cwmni bach. I wneud cais ewch i www.fsbawards.co.uk.

Dyddiad cau : 8fed Chwefror 2019

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19th Rhagfyr 2018