Patent wedi ei roi i sylfaenwyr Solar Buddies yng Nghwmbrân

Yn ôl y South Wales Argus, mae sylfaenwyr Solar Buddies, y ddyfais eli haul, addas i blant y gellir ei hail-lenwi, wedi ymuno â dim ond 7% o ferched yn y DU sydd â phatent DU ar hyn o bryd.

Gwnaeth Kelli Aspland a Laura Griffin o Gwmbrân gais am y patent pan gawson nhw’r syniad am  Solar Buddies yn 2011, ac yna gwnaed cais arall yn 2014 ar ôl newidiadau dylunio pellach.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, maent wedi derbyn y patent a nawr mae eu heiddo deallusol a’u dyluniad wedi ei warchod.

Mwy yma yn y South Wales Argus 

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 22nd Chwefror 2018