Thalia Design Automation Ltd yn Springboard (Cwmbrân) yn agor yn India

Yn ôl eeNews Europe,  mae Thalia Design Automation Ltd. (wedi ei leoli yng Nghanolfan Arloesi busnes Springboard ~ Cymru, Cwmbrân, Torfaen), busnes EDA analog newydd a sefydlwyd gan Sowmyan Rajagopalan, wedi agor canolfan beirianneg yn Hyderabad, India.

Mae Thalia yn darparu celfi awtomeiddio ar gyfer RF, trosglwyddo signalau analog a chymysg ac optimeiddio cylchedau, cynhyrchu deilliadau a chreu IP.

I ddechrau, bydd pum aelod staff yn y swyddfa yn India, yn beirianwyr dylunio analog a datblygu EDA. Dywed Thalia ei fod yn disgwyl cynyddu hyn i 25 o fewn 12 i 18 mis. Mae’r ehangu yn cael ei yrru gan rownd ariannu ddiweddar, meddai Thalia.

Rhagor o wybodaeth yma

Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru  – yn annog a chefnogi busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg twf uchel

 

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 19th Chwefror 2018