Blaenafon Cheddar Company yn enillydd rhanbarthol yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru

Mae enillwyr ar draws nifer o gategorïau wedi cael eu dewis ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018 sy’n digwydd ar 8 Mawrth yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd.

Wedi eu trefnu gan Groeso Cymru, mae’r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yn dathlu’r gorau yn nhwristiaeth Cymru – gan arddangos busnesau twristiaeth Cymru a llwyddiannau’r diwydiant. 

Cyhoeddwyd bod The Blaenafon Cheddar Company Ltd o Dorfaen yn enillydd rhanbarthol yn y categori Gwobr Arloesi Mewn Busnes Twristiaeth.

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 7th Chwefror 2018