Damper o Flamgard ym Mhont-y-pŵl ar safle petrocemegol mwyaf Rwsia

Mae damperi chwyth Flamgard Calidair yn derbyn hyd yn oed mwy o sylw rhyngwladol am eu bod wedi'u lleoli ym mhrosiect trosi hydrocarbon dwfn ZapSibNeftekhim yn Siberia. Mae Flamgard Calidair yn cyflenwi'r damperi chwyth i Tobolsk Polymer, un o gynhyrchwyr polypropylen blaenllaw'r byd, sy'n rhan o gwmni Sibur sy'n gyfrifol am y datblygiad cyfan.

"Mae ein damperi chwyth yn cael eu profi'n annibynnol am eu perfformiad chwyth ac maent yn cael eu defnyddio mewn prosiectau allweddol ledled y byd." meddai Steve Edwards, rheolwr gyfarwyddwr Flamgard Calidair.

Darllenwch mwy ar wefan Flamgard

 

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9th Ionawr 2018