Dyfodol disglair i dalentau ifanc yng nghwmni cyfraith Cwmbrân

Yn ôl y South Wales Argus, bu llwyddiant yn gynnar yn y flwyddyn yn un o gwmnïau cyfraith Cwmbrân wrth i gyfreithiwr dan hyfforddiant gymryd cam mawr tuag at gymwysterau llawn.

Mae Paige Moseley, o Rubin Lewis O’Brien, wedi llwyddo yn ei Chwrs Sgiliau Proffesiynol wrth iddi ddod yn nes at gael ei chymwysterau llawn.

Meddai’r partner rheoli Sam George: “Paige a’i chydweithwyr ifanc yw dyfodol y cwmni a’r sector cyfreithiol yng Nghymru, ac mae’n iawn ein bod yn dathlu’r llwyddiant hwn.”

Rhagor o wybodaeth yn y South Wales Argus

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25th Ionawr 2018