Hediad A380 Cyntaf Singapore Airlines â seddau newydd gan Zodiac Aerospace o Gwmbrân

Ar 2il Tachwedd 2017 datgelodd Singapore Airlines ei switiau newydd ar gyfer fflyd arbennig yr Airbus A380.  Cafodd y rhain eu dylunio gan Pierrejean Design Studio a’u cynhyrchu gan Zodiac Seats UK, gwneuthurwyr seddau a gydnabyddir am eu harbenigedd ar deithwyr a’u galluoedd teilwra. Mae gyda nhw gyfleusterau yng Nghwmbrân, Camberley a Brackley ac maen nhw’n cyflogi dros 1,800 o bobl, tra’n cynnwys dyluniad, datblygiad, cynhyrchu, marchnata a chefnogaeth ar ôl gwerthiant y ddarpariaeth seddi arbenigol yma. Mae’r switiau’n cynnig awyrgylch dethol i deithwyr sydd heb ei ail yn y diwydiant awyrennau masnachol heddiw. Gall deithwyr rhannu gwely dwbl, mwynhau swît breifat ac arweddion a storio integredig. Fel rhan o’r rhaglen yma, gwnaeth Zodiac Seats UK dros 100 o brofion, creu dros 2,000 o ddyluniadau peirianneg a chynhyrchu swît gyda dros 9,000 o ddarnau ar gyfer bob set.

 

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 8th Ionawr 2018