Llywodraeth Cymru yn Cyhoeddi Cronfa £50 Miliwn i Baratoi Busnesau ar gyfer Brexit

Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa newydd i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i baratoi ar gyfer ymadawiad y wlad o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi hwb ariannol gyda’r bwriad o helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru i baratoi a chynllunio ar gyfer Brexit.

Gyda dyraniad cychwynnol o £50 miliwn, mae Cronfa Bontio’r UE i’w datblygu mewn partneriaeth â’r sectorau preifat a chyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth yma

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12th Ionawr 2018