Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Entrepreneuriaeth Prydain Fawr 2018

Mae Gwobrau Entrepreneuriaeth Prydain Fawr yn cydnabod gwaith caled a straeon ysbrydoledig entrepreneuriaid a busnesau Prydain. Mae’r Gwobrau wedi dathlu entrepreneuriaid hynod sydd wedi mynd ymlaen i fod yn enwau cyfarwydd.

Cynhelir y gwobrau mewn 5 o ddinasoedd Prydain gan gynnwys Caerdydd.

Mae amrywiaeth eang o gategorïau ar gael gan gynnwys pencampwr entrepreneuriaid y flwyddyn, entrepreneur teulu busnes y flwyddyn ac entrepreneur ifanc y flwyddyn.

Dyddiad cau : 3 Awst 2018.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma  

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13th Gorffennaf 2018