Pitch It yn lansio yng Nghymru

Mae Pitch It Cymru yn ddigwyddiad cyntaf o’i fath i’w gynnal yng Nghymru, lle medr entrepreneuriaid gael buddsoddiad ar unwaith gan banel. Caiff ei gyflwyno mewn partneriaeth ag Inspire Wales a Chreu Sbarc.

Bydd Pitch It Cymru yn rhoi cyfle i bump o entrepreneuriaid gyflwyno eu busnes yn fyw i banel o feirniaid, gyda’r posibilrwydd o gael buddsoddiad yn y fan a’r lle yn amrywio o £10k-£50k

Mae Inspire Wales a Chreu Sbarc yn agor ceisiadau yn swyddogol ar gyfer eu digwyddiad Pitch It cyntaf yng Nghymru, a gynhelir ar ddydd Iau 17eg Hydref ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth yma 

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27th Gorffennaf 2018