Gwobrau Ffotograffiaeth y Byd Sony 2019 ar agor nawr

Mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r ffotograffiaeth gyfoes orau o’r flwyddyn ddiwethaf. Mae’n rhad ac ddim i gymryd rhan, ac mae’n agored i holl ffotograffwyr sy’n gweithio yn y diwydiant ffotograffig ledled y byd. Y categorïau yw: Proffesiynol, Agored, Ieuenctid a Myfyrwyr.

Bydd enillwyr pob categori, ynghyd â nifer o’r ffotograffwyr ar y rhestr fer, yn cael eu harddangos yn Arddangosfa flynyddol Ffotograffiaeth y Byd Sony a fydd yn teithio’n rhyngwladol. Caiff y delweddau eu cyhoeddi mewn llyfr o’r buddugol ac mae pawb ar y rhestr fer a’r rhai buddugol yn cael sylw byd-eang trwy gyfrwng ymgyrchoedd marchnata ac yn y wasg.

Rhagor o wybodaeth a dyddiadau cau yma

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 11th Gorffennaf 2018