'Firmament' a ffilmiwyd ym Mlaenafon yn cipio gwobrau yng nghystadleuaeth ras ffilmiau 100 awr

Yn ôl y South Wales Argus, roedd cefnlen hyfryd Blaenafon, ynghyd â gorchudd o eira, yn help i ddau o wneuthurwyr ffilmiau Cymreig ennill wyth gwobr mewn cystadleuaeth ffilmiau rhyngwladol yn Unol Daleithiau’r America.

Cystadlodd Mac Nixon, gwneuthurwr ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau a chynt o Ysgol Ffilmiau Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd, ac Andy Toovey, gwneuthurwr ffilmiau o Bont-y-pŵl, yn y ras ffilmiau 100 awr.

Mae’r gystadleuaeth yn gosod y dasg o ysgrifennu, ffilmio a golygu ffilm fer o fewn 100 awr.

Darllenwch fwy yn y South Wales Argus 

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 14th Mawrth 2018