Hoffech chi hybu eich busnes

Mae Cyngor Torfaen yn cyflwyno cynllun buddion i staff, mae’r cynllun yn hybu busnesau trwy gynnig anogaeth i bobl ddefnyddio’u gwasanaethau neu brynu eu nwyddau.   Mae’r cynllun yn gweithio trwy gynnig cerdyn gwobrwyo i staff, wedyn maen nhw’n gallu defnyddio gwefan gaeedig ac app ffôn symudol sy’n hybu busnesau, gall y staff wedyn gael gostyngiad neu anogaeth i ddefnyddio’r busnes. Gall fod nifer o ffurfiau ar yr anogaeth er enghraifft, gostyngiad o ran canran, gwariwch swm penodol a chewch ostyngiad penodol neu hyd yn oed goffi am ddim pan fyddwch yn prynu pryd.  Bydd eich busnes yn elwa o gael ei hybu 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, trefnir pob hysbyseb a chyfathrebu, ac mae hyn y cynnwys cyfleoedd marchnata a chyfathrebu trwy’r flwyddyn ac mae’r gwasanaeth am ddim. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Vectis Card http://www.vectiscard.co.uk Os oes gennych chi ddiddordeb cysylltwch â Tina Hulme ar e-bost tina.hulme@torfaen.gov.uk

 

 

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 27th Mawrth 2018