Solar Buddies Cwmbrân yn gweld cynnydd o 84% yn y nifer o gynnyrch y maen nhw'n eu gwerthu ers ymddangos ar Channel 4

Yn ôl South Wales Argus, mae Solar Buddies, y taenwr eli haul di-lanast i blant, a ddyfeisiwyd gan ddwy fam o Went, wedi gweld cynnydd o 84 y cant yn nifer y cynnyrch y maen nhw’n eu gwerthu ers iddynt ymddangos ar gyfres newydd, Buy It Now ar Channel 4.

Mae Buy it Now, a gyflwynir gan Brian Conley, yn rhoi cyfle i ddyfeiswyr, gwneuthurwyr a thrwyddedwyr ym Mhrydain werthu eu cynhyrchion o flaen darpar gwsmeriaid a phrynwyr o brif fanwerthwyr.

Meddai Kelli Aspland a Laura Griffin, y ddwy a sefydlodd Solar Buddies: "Rydym mor falch o gael ein dewis i ymddangos ochr yn ochr â dyfeiswyr eraill. Mae'r brand wedi cael cymaint o hwb ac mae wedi agor drysau gyda manwerthwyr na fyddem erioed wedi meddwl y byddai'n bosibl."

Darllenwch mwy yn y South Wales Argus

 

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16th Mai 2018