Gwobrau John Brabourne yn Derbyn Ceisiadau gan Dalent Newydd mewn Ffilm a Theledu

Mae Gwobrau John Brabourne yn cefnogi unigolion talentog newydd i ddatblygu eu gyrfaoedd yn niwydiannau ffilm, teledu masnachol a sinema’r DU. Bydd y rheiny a gaiff eu hystyried wedi dangos penderfyniad a chymhelliad wrth fynd ar ôl eu gyrfa ddewisedig ond sydd efallai wedi dioddef anffawd oherwydd amgylchiadau annisgwyl fel iechyd neu arian.

Mae gwobrau hyd at £5,000 ar gael.

Bydd ymgeiswyr cymwys yn gweithio ‘y tu ôl i’r llenni’ yn y diwydiant ffilm, teledu masnachol neu sinema yn y DU.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31 Gorffennaf 2018.

Mwy o wybodaeth yma

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 10th Mai 2018