Doncasters Forging Ltd, Blaenafon, yn ennill aur yng Ngwobrau CIPD Cymru

Ar ddydd Iau 22ain Tachwedd, roedd CIPD Cymru, y corff proffesiynol ar gyfer AD a datblygu pobl, yn cydnabod y sawl sydd ar y blaen yn niwydiant AD Cymru yng Ngwobrau CIPD Cymru 2018.

Mae’r gwobrau yn cydnabod unigolion a thimau rhagorol fel y gorau yn y maes AD, dysgu ac arferion rheoli pobl mewn busnesau ledled Cymru.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd oedd y lleoliad ar gyfer y gwobrau.

Enillodd Doncasters Forging Ltd o Flaenafon wobr aur am ei gynllun prentisiaeth a welodd y busnes yn goresgyn ei leoliad gwledig i recriwtio prentisiaid i’r sector.

Meddai Mark Hendy, Rheolwr AD gyda  Doncasters Forging Ltd: “Rwy’n hynod falch o gael cydnabod ein cynllun prentisiaeth yn y modd hwn. Mae ein cynllun yn y cyfnod cynnar ac mae peth ffordd i fynd, ond mae’r sylfeini yno i ddatblygu talent at y dyfodol.”

Rhagor yn CIPD Wales 
Wedi ei bostio ar Dydd Llun 26th Tachwedd 2018