Cwmni Ynysu yn ehangu ar ôl gwario £7m i uwchraddio'r gwaith yng Nghwmbrân

Yn ôl y South Wales Argus, mae Knauf Insulation wedi gwario £7m i uwchraddio'i safle gweithgynhyrchu yng Nghwmbrân sy'n cynnwys ailadeiladu'r ffwrnais sydd wrth wraidd y gwaith, yn llawn, ac ychwanegu peiriant pecynnu newydd, y mae'r cwmni'n recriwtio gweithredwr ar ei gyfer .

Meddai Darren Holt, rheolwr cwmni Knauf Insulation yng Nghwmbrân: “Mae’r buddsoddiad hwn yn golygu y bydd ein safle yng Nghwmbrân yn parhau i chwarae rôl allweddol o ran diwallu’r galw cynyddol am inswleiddiwr sy’n perfformio’n uchel, nad os modd ei losgi, am flynyddoedd i ddod".

 

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 6th Tachwedd 2018