Mae digwyddiad Menywod Torfaen mewn Busnes nawr yn ei 6ed flwyddyn ac mae’n rhoi cyfle i ddathlu cyfraniad menywod i’r gymuned fusnes.
Y brif siaradwraig yn y digwyddiad fydd Jenny Evans, enillydd Gwobrau Menter Prifysgolion Santander 2017 a sylfaenydd y busnes Cymreig, Jenny Kate Ltd, sy’n cynnig casgliad o ddodrefn meddal moethus a deunyddiau.
Dywedodd Gaynor Wakeling, Rheolwr Cefnogi Busnes yn Economi a Menter Torfaen, cyngor Torfaen “Rydym yn hynod falch o allu croesawu Jenny i siarad â ni eleni ac rwy’n siŵr y bydd y fenyw fusnes ifanc, brwdfrydig hon yn ysbrydoliaeth i fenywod sydd naill ai mewn busnes neu sy’n ystyried sefydlu busnes.”
Gyda’r digwyddiad mewn lleoliad sefydledig yng Ngwesty’r Parkway yng Nghwmbrân, mae fel arfer yn denu dros 100 o gynrychiolwyr o dde ddwyrain Cymru.
Nid yn unig fydd cynrychiolwyr yn clywed gan siaradwyr ardderchog ond bydd ganddyn nhw ddigon o gyfleoedd i rwydweithio ac i siopa wrth y byrddau masnach. Bydd te blasus ar gael hefyd.
Eleni bydd y digwyddiad yn cefnogi’r Teenage Cancer Trust.
Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24th Hydref 2018