Cronfa Launchpad i Gerddorion Cymreig Uchelgeisiol – Agor Rownd 2018

Mae Cronfa Launchpad, sy’n rhan o gynllun Horizons y BBC, wedi ei sefydlu i roi cefnogaeth ariannol i artistiaid neu fandiau yng Nghymru i wella’u gyrfaoedd.  Trwy roi nifer o roddion o hyd at £2,000, bydd y cynllun yn helpu’r rheiny sy’n ysgrifennu, yn cynhyrchu ac yn perfformio cerddoriaeth wreiddiol, gyfoes, boblogaidd.

Mae Launchpad yn agored i artistiaid/bandiau yng Nghymru sy’n ysgrifennu, yn cynhyrchu ac yn perfformio cerddoriaeth wreiddiol, gyfoes, boblogaidd. Mae’r genres cerddorol cymwys yn cynnwys indie, electronig, dinesig, pop, roc, byd-eang, gwerin a mathau datblygol ar gerddoriaeth gyfoes.

Ceisiadau erbyn 16 Tachwedd 2018.

Mwy o wybodaeth yma

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24th Hydref 2018