Cyfrifwyr a Chynghorwyr Trethi Green & Co wedi ei enwi'n Bractis Canolig y Flwyddyn

Ar ddydd Iau 20 Medi, ymgasglodd a dathlodd cyfrifwyr gorau’r genedl Wobrau Rhagoriaeth mewn Cyfrifeg yn Llundain. Mae’r digwyddiad pwysig hwn yn amlygu datblygiad proffesiynol ac arloesi ac yn dathlu’r rhai sydd wedi arddangos rhagoriaeth yn y byd cyfrifeg.

Wedi eu henwebu ar gyfer dwy wobr, enillodd Green & Co wobr glodfawr Practis Canolig y Flwyddyn. Yno i gasglu’r wobr yn yr InterContinental, Park Lane  oedd partneriaid Green & Co Barrie Kenyon, Ed Gooderham a Nick Park.

Esboniodd Nick beth oedd ennill y wobr yn ei olygu i’r cwmni. “Mae’r wobr hon yn llawer mwy na thlws; i ni mae’n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y tîm cyfan a’r ffocws ar wasanaeth cleient.”

Darllenwch fwy am y stori hon yma 
Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 26th Medi 2018