Cwmni recriwtio Cwmbrân i greu swyddi fel rhan o ymgyrch ehangu

Yn ôl Insider Media,  mae cwmni recriwtio yng Nghwmbrân wedi datgelu cynlluniau i ehangu ei weithlu, wythnosau ar ôl cwblhau ymgyrch i achub cwmni tebyg yng Nghasnewydd (Marvelle Management – a oedd yn masnachu fel Centric Recruitment). Mae hefyd wedi amlinellu cynllun twf tair blynedd sy’n cynnwys gyrru trosiant heibio £20m.

Mae perchennog Vibe, Jon Ross, wedi dweud wrth Insider bod y busnes yn bwriadu creu 12 swydd dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynyddu’r nifer sy’n gweithio i’r cwmni i fwy na 40.

Rhagor o wybodaeth yma Insider Media 

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17th Ebrill 2019