Menyw fusnes o Dorfaen yn ennill yng Ngwobrau Everywoman NatWest

Mae Kelli Aspland, cyfarwyddwr Auriella Ltd T/A Solar Buddies o Gwmbrân, wedi ennill Gwobr Aphrodite yng Ngwobrau Everywoman NatWest a gynhaliwyd yng Ngwesty Grosvenor House JW Marriott, Llundain.  Dyma’r 17eg flwyddyn i’r gwobrau gael eu cynnal ac maen nhw’n dathlu’r fenyw y tu ôl i’r busnes, ei llwyddiannau personol a sut mae hi’n ysbrydoli eraill.

 

Rhoddir Gwobr Aphrodite i fenyw a sefydlodd ei busnes ar yr un pryd â magu plant 12 oed neu’n iau.

 

Mae Gwobrau 2020 nawr ar agor (enwebiadau erbyn Mawrth 2020).

 

Darllenwch fwy am y gwobrau yma  

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 16th Rhagfyr 2019