£1.1 Biliwn o Gymorth Benthyca i Fusnesau yng Nghymru yn 2019

Yn ôl Newyddion Busnes Cymru, fel rhan o addewid cenedlaethol Grŵp Bancio Lloyds i roi £18 biliwn i fusnesau yn y Deyrnas Unedig, mae'r Grŵp yn disgwyl darparu cymorth benthyca o hyd at £1.1 biliwn i gwmnïau yng Nghymru yn ystod 2019.

 

Mae’r £1.1biliwn ar gael i gwmnïau ar draws Cymru a bydd yn darparu cefnogaeth i entrepreneuriaid sy’n dechrau busnes newydd, busnesau micro sy’n ceisio ehangu a busnesau bach sy’n ystyried masnachu’n rhyngwladol am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn cefnogi busnesau canolig sefydledig a chorfforaethau mawr, amlwladol sy'n ceisio twf pellach.

 

Darllenwch mwy yn Newyddion busnes Cymru

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25th Ionawr 2019