Steve Edwards, Rheolwr Flamgard Calidair o Bont-y-pŵl ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2019

Mae Flamgard Calidair yn falch o gyhoeddi fod eu rheolwr-gyfarwyddwr, Steve Edwards, wedi ei gynnwys ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni.

Mae Steve wedi cael MBE (Member of the Most Excellent Order of the British Empire) fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad ar Economi Prydain ac Allforion.

Mae Steve yn dweud ei fod “wedi synnu, yn falch ac yn wirioneddol teimlo’r anrhydedd. Rwy’n teimlo bod y wobr yma’n cynrychioli gwaith hynod galed, ymroddiad ac arloesi’r tîm yma yn Flamgard, a chefnogaeth fy nghyd-weithwyr agos Lee Bramald a Shuresh Maran. Y tîm yma sydd wedi gyrru’n busnes ymlaen ac wedi rhoi’r twf rhyngwladol i ni a arweiniodd at hyn oll a’r Wobr gan y Bwrdd Masnach.”

Mae damperi Flamgard Calidair wedi eu cynllunio i gadw pobl y ddiogel mewn amgylchiadau heriol ac wedi cael eu defnyddio ar gynlluniau rhyngwladol mawr mor amrywiol â chynllun uchelgeisiol Riyadh Metro a chynllun Caethiwo’n Ddiogel newydd yn Chernobyl.

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 2nd Ionawr 2019