Cwmni o Dorfaen ar restr Gwobrau AD Cymru 2019

Wedi ei lansio yn 2017, mae Gwobrau AD Cymru’n cydnabod y bobl broffesiynol orau mewn AD ar draws nifer o ddiwydiannau ac yn rhoi sylw i unigolion a thimau neilltuol fel y gorau mewn AD, dysgu ac arfer rheoli pobl ar draws Cymru yn y 12 mis diwethaf.

 

Mae Lisa Hand o Sigma Systems yng nghanolfan Springboard wedi cyrraedd rownd derfynol categori ‘Person Proffesiynol AD Gorau – TG Digidol’.

 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi a’u dathlu ar 22ain o Fawrth 2019 mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty’r Exchange yng Nghaerdydd.

 

Mae Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru, Parc Llantarnam, Cwmbrân yn cefnogi ac yn meithrin busnesau technoleg sy’n tyfu’n gyflym. Mae mwy o wybodaeth am y ganolfan yma 

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 29th Ionawr 2019