Comparison Creator o Gwmbrân yn Cryfhau eu Tîm Masnachol

 

Yn ôl Business News Wales, mae Comparison Creator o Gwmbrân wedi cryfhau eu cryfhâi eu tîm masnachol gyda phenodiad Ben Wilson, cyn rheolwr gyda GoCompare.

Mae Ben yn ymuno â’r cwmni fel Pennaeth Masnach a bydd yn gyfrifol am ddatblygu portffolio cynnyrch Comparison Creator, yn ogystal â rheoli eu partneriaethau masnachol.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Comparison Creator, Steve Jones: “Mae Ben yn ymuno â Comparison Creator gyda phrofiad helaeth mewn gwasanaethau ariannol a gwefannau cymharu prisiau. Mae ei wybodaeth o gynnyrch a’r diwydiant heb ei ail a bydd yn hynod o werthfawr i’r tîm a bydd yn helpu i yrru twf pellach yn y busnes.”

Mae Comparison Creator, yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru yng Nghwmbrân yn gyrru gwasanaethau cymharu labeli gwyn ar gyfer brandiau fel Moneysupermarket, GoCompare, Confused.com, uSwitch, Money.co.uk a Compare The Market. Mae’n cynnig amrywiaeth o gymariaethau ar gynhyrchion o yswiriant ar declynnau, yswiriant methiant cerbydau ac yswiriant argyfwng yn y cartref.

 

Darllenwch fwy yn Business News Wales

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5th Mehefin 2019