Comparison Creator o Gwmbrân ar restr fer Gwobrau Fintech Cymru 2019

Mae Comparison Creator wedi cyrraedd y rhestr fer yn y ddau gategori canlynol yn y gwobrau busnes mawr eu bri yma sy’n dathlu busnesau a phobl broffesiynol yn sector ffyniannus Fintech yng Nghymru:

 

  1. Cwmni Technoleg Galluogi Gorau
  2. Eleana Martyn – Seren FinTech ar Gynnydd

 

Bydd y Seremoni Wobrwyo ar Orffennaf 19eg yn y Tramshed, Caerdydd

 

Cwmni datblygu meddalwedd sy’n arbenigo mewn darparu atebion allanol i wefannau cymharu prisiau yw Comparison Creator. Nhw yw’r unig gwmni label gwyn diduedd, annibynnol a phreifat yn y DU.  Maen nhw wedi eu lleoli yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru yng Nghwmbrân
Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5th Mehefin 2019